Huw Irranca-Davies AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol | |
Yn ei swydd 3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Rebecca Evans |
Dilynwyd gan | Diddymwyd y swydd |
Is-Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd Forol a Naturiol | |
Yn ei swydd 5 Hydref 2008 – 6 Mai 2010 | |
Prif Weinidog | Gordon Brown |
Rhagflaenwyd gan | Jonathan Shaw |
Dilynwyd gan | Richard Benyon |
Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Yn ei swydd 2 Gorffennaf 2007 – 5 Hydref 2008 | |
Prif Weinidog | Gordon Brown |
Rhagflaenwyd gan | Nick Ainger |
Dilynwyd gan | Wayne David |
Aelod o Senedd Cymru dros Ogwr | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Janice Gregory |
Aelod Seneddol dros Ogwr | |
Yn ei swydd 14 Chwefror 2002 – 24 Mawrth 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Ray Powell |
Dilynwyd gan | Chris Elmore |
Manylion personol | |
Ganwyd | Ifor Huw Davies 22 Ionawr 1963 Tre-gŵyr, Abertawe |
Cenedligrwydd | Cymro |
Plaid wleidyddol | Llafur Cyd-weithredol |
Priod | Joanna Irranca (adnabyddir fel Joanna Irranca-Davies) |
Perthnasau | Ifor Davies (Ewythr) |
Plant | 3 |
Swydd | Gwleidydd |
Gwefan | huwirranca-davies.org.uk |
Gwleidydd Llafur yw Ifor Huw Irranca-Davies[1] (ganwyd 22 Ionawr 1963) sydd yn Aelod o'r Senedd dros Ogwr ers 2016. Cyn hynny roedd yn Aelod Seneddol (San Steffan) dros Ogwr rhwng 2002 a 2016.
Ar ôl gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, daeth yn Gynorthwyydd Chwip ym mis Mai 2006. Ar 29 Mehefin 2007, fe'i penodwyd yn is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru, cyn cael ei ddyrchafu i rôl is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Ymddiswyddodd Irranca-Davies o'i sedd yn San Steffan ym mis Mawrth 2016 er mwyn sefyll yn yr un etholaeth ar gyfer etholiad Cynulliad Cymru ym mis Mai 2016.[2]